SL(5)275 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018
Cefndir a Diben
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("y Ddeddf").
Mewn perthynas â Chymru, caiff y lluosydd ardrethu annomestig ei gyfrifo ym mhob blwyddyn ariannol pan na chaiff rhestrau newydd eu llunio ynddi, yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf. Mae 2019 yn flwyddyn pan nad yw rhestrau newydd yn cael eu llunio.
Mae'r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i swm gwahanol a bennir felly fod yn is na'r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol yw 284.1.
Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi mai'r swm ar gyfer eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2019 yw 281.7.
Y weithdrefn
Cadarnhaol.
Rhaid ei gymeradwyo cyn i'r Cynulliad roi cymeradwyaeth i'r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2019.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.
1. Mae'r Gorchymyn yn pennu 281.7 fel B yn y modd a eglurir yn y Nodyn Esboniadol. Fodd bynnag, ni chyfeirir at y rhif hwnnw o gwbl yn y Memorandwm Esboniadol, ac felly nid yw'n ddefnyddiol o ran egluro effaith y Gorchymyn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Dim.
Ymateb y Llywodraeth
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
13 Tachwedd 2018